Yr unig gapel Cymraeg yng ngorllewin Caerdydd!

Y Parchedig Evan Morgan
Capel Salem, Market Street

Rydym yn ymhyfrydu yn y ffaith ein bod yn eglwys sy’n llawen ein croeso i bawb, yn weithgar ac yn fyrlymus, ac sy’n tyfu’n flynyddol! Ceir awyrgylch cartrefol, anffurfiol braf yn Salem, felly dewch i ymuno â ni!

    • Ymhyfrydwn yn y ffaith ein bod yn gapel croesawgar, anffurfiol â phedair cenhedlaeth yn cyd-addoli mewn awyrgylch gofalgar a chynnes.
  • Cynhelir oedfaon teuluol am 10.30 y bore ac oedfaon gyda’r hwyr am 6.00 ar y Sul.
  • Mae’r Ysgol Sul yn llawn bwrlwm bob Sul, wrth i fabanod, plant a phobl ifanc yn eu harddegau ddod i ddysgu, mwynhau a chymdeithasu.
  • Rhoddwn bwyslais arbennig ar y ffaith ein bod yn deulu yma yn Salem, yn gylch o ffrindiau sy’n gwasanaethu Duw ac eraill. 
  • Mae gofalu am ein gilydd a’r gymuned ehangach yn flaenoriaeth i ni, wrth i ni uniaethu a dangos consyrn tuag at eraill.
  • Trefnir gweithgareddau amrywiol ar gyfer pob oed – o fowlio deg i griced, o flasu gwin i ginio Gŵyl Ddewi.  Rhywbeth at ddant pawb!  Cliciwch ar Gweithgareddau a Dyddiadur y Mis i ddarllen rhagor.
  • Rydym yn gwasanaethu’r gymuned Gymraeg ehangach yn Nhreganna wrth i Gylch Meithrin y Parc, Côrdydd, Côr Canna, Côr Hen Nodiant a Bechgyn Bro Taf ddefnyddio’n hystafelloedd yn wythnosol, yn ogystal â llu o ddigwyddiadau/cyngherddau eraill a gynhelir yma bob blwyddyn.
  • Mae gennym estyniad newydd er mwyn ymateb i’r cynnydd mewn niferoedd, sy’n ystafell ychwanegol at ein defnydd, yn gegin ac yn gyfleusterau newydd.

    Y Parchedig Evan Morgan
    Y Parchedig Evan Morgan
  • Mae Evan, ein bugail, yn ein harwain gyda’r oes, yn ifanc ac yn egniol, ac yn hynod groesawus!