bandCynhelir amryw o weithgareddau yn Salem sy’n dod â ni at ein gilydd. Cyfleuon yw’r rhain i gymdeithasu a mwynhau cwmni’n gilydd mewn awyrgylch braf a chartrefol.

Clwb Bobl Ifainc

Clwb i bobl ifainc yn ysgol uwchradd. Rydym yn cyfarfod unwaith y mis fel arfer ar nos Wener a mae’r gweithgareddau’n amrywio o fowlio deg i drampolîno i noson DVD a sglodion neu pizza. Cynhelir penwythnos i ffwrdd pob blwyddyn i wahanol lefydd. Gweler Dyddiadur y Mis am y dyddiadau.

Clwb Brecwast

Brecwast blasus, cwmni difyr. Croeso mawr i bob rhiant a phlentyn dan oedran meithrin. 9:45 tan 11:15. Fel arfer mae’r Clwb yn cyfarfod pob pythefnos ar fore dydd Mercher, ond dyw’r Clwb ddim yn cyfarfod yn ystod gwyliau’r ysgol.

Gweler amserlen 2023 y Clwb o dan “Clwb Brecwast”.

Clwb Coffi

Coffi a chlonc unwaith y mis yn y festri, fel arfer ar fore dydd Gwener. Croeso i bawb sy’n rhydd yn ystod y bore i ymuno â ni am goffi a sgwrs a chwmnïaeth. Gweler Dyddiadur y Mis am y dyddiadau.

Clwb Criced

Sawl gem cyfeillgar pob haf, fel arfer yn cael eu chwarae ar Gae’r Esgob, Ysgol y Gadeirlan. Gweler Dyddiadur y Mis am y dyddiadau.